Agoriad o waith Meri Wells, Artist Serameg, Canolfan Cantref.
‘O’r Ddaear’
Daeth tyrfa niferus o bobl i weld agoriad ac Arddangosfa o waith Meri Wells, nos Wener, Awst 14eg yng Nghanolfan Cantref - ‘O’r Ddaear’ ydi enw’r arddangosfa a
cewch weld creaduriaid haniaethol a rhyfeddol iawn yno.
Roedd Luned Rhys Parri yn agor yr arddangosfa a rhoddodd sgwrs ddiddorol a pytiau o hanes yr artist serameg pwysig yma.
Yn ôl Luned, ‘Bu Meri yn weithgar am flynyddoedd gyda’r Mudiad Heddwch a mynychodd Greenham Common i ymgyrchu. Dangoswyd ei charedigrwydd tuag at eraill
wrth iddi roi gwyliau yng Nghymru i blant sâl ac amddifad o Chernobyl yn dilyn y ddamwain erchyll yno yn y ‘90 au. Cafodd ei gwneud yn amddifad ei hun pan oedd yn
ei harddegau! Bu’n astudio Celf a Drama yn y Brifysgol yn Aberystwyth a dysgu Cymraeg yn rhugl iawn.
Mae’n byw tu allan i Fachynlleth ac wedi rhoi cyfleon i amryw o bobl ifanc oedd am gael profiad gwaith o astudio Serameg. Roedd croeso mawr i bob un yn Cae Carrog,
ei chartref. Yno hefyd mae wedi adnewyddu hen dŷ Cymreig, ac mae’n gweithio yno. Mae’n artist pwysig sydd wedi arddangos ar hyd a lled Cymru ac yn yr Eisteddfod
Genedlaethol hefyd. Mae wedi ennill sawl gwobr, bod ar raglenni teledu a’i gwaith wedi teithio i sawl gwlad dros y Byd.
Wrth edrych ar y ŵe am ei hanes - fe sylwch mor brysur a phwysig mae wedi bod ac yn parhau i weithio’n ddiwyd.
Diolch i Andrew Roberts ( mab yng nghyfraith Meri) am osod yr arddangosfa mor gelfydd, ac i bawb o deulu a ffrindiau ddaeth draw ar y noson. Ar agor tan Medi 11eg.